Description: Description: WNA Logo.jpg

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol

Adroddiad blynyddol a datganiad ariannol 2014

 

 

Nodau ac amcanion

 

Nod

I wella gwasanaethau ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol

 

Amcanion

1. I ymgysylltu â phobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol a gweithio mewn partneriaeth â hwy.

2. Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol a’u heffaith ar unigolion a’u cymunedau.

3. I roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am anghenion pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol, ac i ddylanwadu arni.

4. I gefnogi a hyrwyddo ymchwil priodol

 

Aelodaeth a Chyfarfodydd y grŵp:

 

Mae’r Grŵp yn cynnwys Aelodau Cynulliad o bob un o’r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru,a chynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Cynghrair Niwrolegol Cymru. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, ond anfonir gwahoddiadau penodol at y 32 o sefydliadau sy’n aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru neu unigolion eraill sydd â diddordeb mewn cyflyrau niwrolegol y bydd y cadeirydd a’r ysgrifennydd yn dewis eu gwahodd yn benodol.

 

Ar hyn o bryd, yr aelodau yw:

Mark Isherwood AC (Cadeirydd)

Rebecca Evans AC (tan fis Gorffennaf 2014)

Elin Jones AC

Kirsty Williams AC

Maggie Hayes -  Cynghrair Niwrolegol Cymru (Ysgrifennydd tan fis Chwefror 2014)

Urtha Felda, Cynghrair Niwrolegol Cymru (Ysgrifennydd dros dro)

Ana Palazon - Y Gymdeithas Strôc (Cadeirydd Cynghrair Niwrolegol  Cymru)

Joseph Carter - Cymdeithas MS Cymru

Barbara Locke - Parkinson’s UK

Dave Maggs - Headway

David Murray - Ymddiriedolaeth Gwellhad i’r Clefyd Parkinson

Carol Ross - Ffibromyalgia UK

Ann Sivapatham - Epilepsy Action

Carol Smith - Y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor

Kate Steele - Shine Cymru

Alan Thomas - Ataxia UK

Kevin Thomas - Y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor

 

Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Nid oedd yw’r grŵp wedi cwrdd ag unrhyw lobïwyr proffesiynol. Gellir cael manylion am fudiadau gwirfoddol ac elusennol sy’n dod i’r cyfarfodydd yn yr adran ‘Aelodaeth a Chyfarfodydd y grŵp’ o’r adroddiad.

 

Cyfarfodydd

Cyfarfu’r Grŵp Trawsbleidiol deirgwaith yn ystod 2013/14, ym mis Hydref 2013, mis Tachwedd 2013 a mis Chwefror 2014. Roedd y grŵp i gyfarfod ym mis Mehefin 2014, ond bu’n rhaid canslo’r cyfarfod oherwydd trydydd a phedwerydd darlleniad y Bil Tai.

 

Hydref 2013

Roedd y cyfarfod hwn wedi’i neilltuo i ddangos gwaith ymchwil yng Nghymru. Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio prosiect Sêr Cymru, gan fuddsoddi £21.3 miliwn i ddatblygu gwaith ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru. Dyfarnwyd £4 miliwn i’r Athro Yves Barde ar gyfer gwaith ymchwil i Niwrofioleg yn yr Ysgol Fiowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd (Medi 2013 - Hydref 2018) fel rhan o’r prosiect hwn, ac ymunodd â’r Athro Bob Woods o Neurodem yn y cyfarfod.

 

Dangosodd y Grŵp Trawsbleidiol fod Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei buddsoddiad mewn gwaith ymchwil, ac, oherwydd yr Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, Neurodem, Cynnwys Pobl a pharodrwydd niwrolegwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae maes ymchwil Cymru mewn sefyllfa gadarnhaol. Fodd bynnag, nodwyd bod y cyllid addysg uwch yn yr hirdymor yng Nghymru, cwmpas y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a gwasanaethau trawsffiniol yn creu her.

 

Tachwedd 2013

Cyfarfu’r Grŵp Trawsbleidiol yng Nghaerfyrddin ar gyfer y cyfarfod hwn a oedd yn canolbwyntio ar niwroseicoleg. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Rebecca Evans AC, a hwn oedd y trydydd tro i’r Grŵp Trawsbleidiol gwrdd y tu allan i’r Cynulliad Cenedlaethol (y tro cyntaf yng Ngorllewin Cymru). Roedd y cyfarfod yn caniatáu amser i ddefnyddwyr gwasanaethau holi gweithwyr proffesiynol a gwleidyddion am wasanaethau lleol, ac yn caniatáu i Gynghrair Niwrolegol Gorllewin Cymru gyflwyno ei hadroddiad ar wasanaethau niwroseicoleg. Roedd oddeutu 50 o bobl o’r ardal leol yn bresennol, gan gynnwys rheolwyr y Bwrdd Iechyd, gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau. Cafwyd cyflwyniadau gan Dr Tanya Edmonds, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol Arweiniol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Dr Claire Willson - Arweinydd Clinigol ar gyfer Niwroseicoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; ac Audrey Rogers,  Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Cyflwynodd Rebecca Evans amrywiaeth o faterion a nodwyd yn y cyfarfod i sylw’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chydweithwyr ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Chwefror 2014

Rhwng mis Hydref 2013 a mis Ionawr 2014 roedd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol drafft, a gwnaed penderfyniad i ganolbwyntio ar y cynllun drafft yng nghyfarfod mis Chwefror.

 

Yn fuan ar ôl dod yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, addawodd Mark Drakeford AC gynllun a fyddai’n gweithredu ar faterion sy’n weddill o’r adolygiad niwrowyddorau, ac addawodd y byddai’n ymateb i ymholiadau’r Grŵp Trawsbleidiol ar y ddealltwriaeth o gyflyrau niwrolegol (2011) a mynediad at niwroffisiotherapi (2013). Roedd y Cynllun Cyflawni drafft yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o’r GIG yng Nghymru, o ran cynllunio, sicrhau a darparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer unrhyw un yr effeithir arno gan gyflwr niwrolegol.

 

Roedd y ddogfen yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion y boblogaeth, mynd i’r afael ag amrywiaeth o ran mynediad at wasanaethau, a lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd ar draws chwe thema.

 

-       Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol

-       Diagnosis amserol o gyflyrau niwrolegol

-       Gofal cyflym ac effeithiol

-       Byw gyda chyflwr niwrolegol

-       Gwella Gwybodaeth

-       Targedu ymchwil

 

Gwahoddwyd Chris Jones (Dirprwy Brif Swyddog Meddygol) a Caroline Lewis i gyflwyno’r Cynllun Cyflawni i’r Grŵp Trawsbleidiol ac ateb cwestiynau ar y ddogfen ddrafft a’r cynllun gweithredu. Roedd Cynghrair Niwrolegol Cymru yn croesawu’r egwyddor o Gynllun Cyflawni, a’r themâu eang, ond amlinellodd bryderon, gan gynnwys y diffyg manylion a’r diffyg dulliau i fesur perfformiad.

 

Rhoddodd Llywodraeth Cymru ymrwymiad i ymgysylltu â Chynghrair Niwrolegol Cymru yn y misoedd yn dilyn y cyfarfod, a thrwy gydol y broses o roi’r Cynllun Cyflawni ar waith. Ar 8 Mai, 2014 cyhoeddwyd y Cynllun Cyflawni terfynol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Roedd y dulliau mesur perfformiad wedi gwella, a bellach roedd 7fed thema (plant a phobl ifanc), a gwahoddwyd tri chynrychiolydd o Gynghrair Niwrolegol Cymru i fod yn aelodau o Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan.

 

Mae cylch gorchwyl y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol yn cynnig darpariaeth ar gyfer sefydliadau unigol i gyflwyno eu hachos ar fater neu bryder penodol:

 

"Dylai slot 10 munud fod ar gael ym mhob cyfarfod ar gyfer sefydliad unigol i godi mater neu ymgyrch. Gwahoddir aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru i gyflwyno mater, ac os oes mwy nag un sefydliad yn awyddus i gyflwyno eu pwnc, bydd y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd yn penderfynu pa sefydliad a fydd â’r hawl i siarad."

 

Y cyfarfod hwn oedd y tro cyntaf ers 2011 i sefydliad ofyn am ddefnyddio’r ddarpariaeth hon, felly rhoddodd Paul King, Prif Weithredwr y Gymdeithas Dystonia (a gefnogir gan Christine Chapman AC) gyflwyniad ar y problemau y mae pobl sydd â Dystonia yn eu hwynebu.

 


 

Datganiad Ariannol

Telir yr holl gostau gan Gynghrair Niwrolegol Cymru.

 

 

Llety ac arlwyo

Treuliau

Hydref 2013

£51

£26.50

Tachwedd 2013

£98

£0

Chwefror 2014

£64.62

£0

Cyfansymiau

£213.62

£26.50

 

 

 

Cyfanswm Terfynol

£241.22